Datganiad hygyrchedd ar gyfer Adnewyddu eich cofrestriad pleidleisiwr tramor
Mae’r datganiad hwn yn gymwys i’r gwasanaeth Adnewyddu eich cofrestriad pleidleiswyr tramor, sydd ar gael yn https://renew-your-overseas-voter-registration.service.gov.uk. Bwriedir i’r gwasanaeth hwn gael ei ddefnyddio gan bob unigolyn cymwys fel rhan o wefan ehangach GOV.UK. Mae datganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer gwefan GOV.UK.
Defnyddio’r gwasanaeth
Rhedir y gwasanaeth gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG), sydd am sicrhau y gall cynifer o bobl â phosibl ei ddefnyddio. Mae hyn yn golygu y dylech allu gwneud y canlynol:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- chwyddo hyd at 300%, heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
- cael y gwasanaeth o’r dechrau i’r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- cael y gwasanaeth o’r dechrau i’r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y gwasanaeth gyda darllenydd sgrin (yn cynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Roedd testun y gwasanaeth hefyd wedi’i wneud mor syml â phosibl.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Dylai’r gwasanaeth Adnewyddu eich cofrestriad pleidleisiwr tramor fod yn gwbl hygyrch.
Os byddwch yn ei chael hi’n anodd defnyddio’r gwasanaeth hwn, cysylltwch â’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn:
- e-bost: des@elections.gov.uk
Adrodd am broblemau hygyrchedd
Mae MHCLG bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd gwasanaethau. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os byddwch o’r farn nad yw MHCLG yn bodloni gofynion hygyrchedd gyda’r gwasanaeth hwn, anfonwch neges e-bost i des@elections.gov.uk
Hygyrchedd technegol a gwella
Mae’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn ymrwymedig i sicrhau bod y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae’r gwasanaeth hwn ar gam beta cyhoeddus ar hyn o bryd ac mae wedi bod yn destun archwiliad hygyrchedd llawn yn erbyn Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2. Roedd yn cydymffurfio’n llawn.
Bydd MHCLG yn adolygu ac yn iteru’r gwasanaeth hwn yn barhaus yn beta cyhoeddus er mwyn cynnal y safonau hygyrchedd uchaf posibl.
Llunio’r datganiad
Lluniwyd y datganiad hwn ar 10 Gorffennaf 2025.